
{"id":11608,"date":"2025-10-28T11:35:21","date_gmt":"2025-10-28T11:35:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.natureconservation.wales\/establishing-the-new-south-wales-american-mink-partnership-swamp\/"},"modified":"2025-11-06T12:54:08","modified_gmt":"2025-11-06T12:54:08","slug":"establishing-the-new-south-wales-american-mink-partnership-swamp","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/establishing-the-new-south-wales-american-mink-partnership-swamp\/","title":{"rendered":"Sefydlu Partneriaeth Minc Americanaidd De Cymru (SWAMP) newydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Mae Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yn un o&#8217;r prif fygythiadau i fioamrywiaeth ledled y byd. Mae symiau enfawr o arian yn cael eu gwario&#8217;n flynyddol yn y DU ar gael gwared ar a \/ neu reoli rhywogaethau fel Canclwm Japan <em>Fallopia japonica,<\/em> y Cimwch Afon Signal Americanaidd <em>Pacifasticus leniusculus<\/em> a Gwiwerod Llwyd <em>Sciurus carolinensis<\/em>.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11562\" srcset=\"https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-1320x880.jpg 1320w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1-600x400.jpg 600w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Tim-Melling-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Minc Americanaidd (c) Tim Melling<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Un o INNS mwyaf arwyddocaol y DU yw&#8217;r Minc Americanaidd <em>Neogale vison.<\/em> Fel mae&#8217;r enw&#8217;n awgrymu, mae&#8217;r carlymoliad yma\u2019n frodorol i Ogledd America lle mae&#8217;n cydfodoli&#8217;n naturiol gyda llu o rywogaethau sydd wedi esblygu ochr yn ochr ag ef. Wedi&#8217;u cludo i&#8217;r wlad yma ar gyfer ffermio ffwr, dihangodd y rhywogaeth o gaethiwed a chafodd ei rhyddhau gan ymgyrchwyr dros les anifeiliaid yn llawn bwriadau da. Yn anffodus, roedd ein bywyd gwyllt ni\u2019n fregus iawn wrth i ysglyfaethwr mor effeithiol a barus gael ei ryddhau ac mae ymlediad y rhywogaeth ledled y wlad wedi cyfrannu at ddirywiad eang mewn amrywiaeth o rywogaethau.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11564\" srcset=\"https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-300x200.jpg 300w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-768x512.jpg 768w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-1320x880.jpg 1320w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1-600x400.jpg 600w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Coot-Fulica-atra-1.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Cwtiar ar nyth<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Ymhlith y rhywogaethau mwyaf gweladwy i gael eu heffeithio mae adar d\u0175r gan gynnwys hwyaid, adar rhydio a Glas y Dorlan. Mae&#8217;r Minc yn gyflym ac yn nofiwr rhagorol, ac yn gallu cyrraedd ceudodau bach felly wedi addasu&#8217;n ddelfrydol i fwydo ar wyau a chywion amrywiaeth o adar. Bydd hefyd yn cymryd pysgod, amffibiaid a mamaliaid bach.<\/p>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-video\"><video height=\"1080\" style=\"aspect-ratio: 1920 \/ 1080;\" width=\"1920\" controls src=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink.mp4\"><\/video><figcaption class=\"wp-element-caption\">Minc Americanaidd yn Sir Gaerfyrddin<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Llygoden Bengron y D\u0175r <em>Arvicola amphibius <\/em>yw&#8217;r mamal sy&#8217;n dirywio gyflymaf yn y DU, gydag ysglyfaethu gan y Minc yn un o&#8217;r prif achosion. Mae\u2019r Mincod yn gallu hela Llygod Pengrwn y D\u0175r o&#8217;r d\u0175r ac ar y tir, gan eu gadael heb unman i ddianc iddo. Gall Minc benywaidd a&#8217;i rhai bach ddifa poblogaeth o Lygod Pengrwn y D\u0175r yn gyflym iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae prosiect Llygod Pengrwn y D\u0175r yr ucheldir Wild Cymru (<strong><a href=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/cy\/prosiectau\/achub-llygod-pengrwn-y-dwr-ucheldir-cymru\/\">Achub Llygod Pengrwn y D\u0175r Ucheldir Cymru \u2013 Initiative for Nature Conservation Cymru<\/a><\/strong>) yn ein helpu ni i ddysgu llawer mwy am boblogaethau&#8217;r rhywogaeth hon a ddarganfuwyd yn gymharol ddiweddar yn ucheldiroedd Cymru. Y gred yw bod y poblogaethau hyn wedi goroesi yn y cynefinoedd is-optimaidd yma o ganlyniad i amharodrwydd y Minc Americanaidd i symud i&#8217;r ardaloedd yma sy&#8217;n brin o rywogaethau ysglyfaeth.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-vertically-aligned-center is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p>Yn anffodus, mae&#8217;r prosiect wedi canfod tystiolaeth o\u2019r Minc Americanaidd yn lledaenu i&#8217;r cynefinoedd ucheldir yma, gan greu bygythiad enfawr i&#8217;r poblogaethau hyn, sydd ymhlith y poblogaethau pwysicaf o Lygod Pengrwn y D\u0175r yng Nghymru o bosibl.<\/p>\n<\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"571\" src=\"https:\/\/www.natureconservation.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-1024x571.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11568\" srcset=\"https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-1024x571.jpg 1024w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-300x167.jpg 300w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-768x429.jpg 768w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-1536x857.jpg 1536w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-1320x737.jpg 1320w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison-600x335.jpg 600w, https:\/\/dev.wild.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/American-Mink-Neovison-vison.jpg 1561w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Minc Americanaidd yn ucheldir Cymru<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p>Mae hyn wedi arwain at Wild Cymru a phartneriaid yn sefydlu Partneriaeth Minc Americanaidd De Cymru (SWAMP). Mae&#8217;r gr\u0175p hwn yn cynnwys Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a\u2019r Prosiect Mawndiroedd Coll.<\/p>\n\n\n\n<p>Cysylltodd y bartneriaeth \u00e2 The Waterlife Recovery Trust (WRT) sydd wedi cynnal prosiect rheoli arloesol ar gyfer y Minc Americanaidd yn Nwyrain Anglia (<strong><a href=\"https:\/\/www.waterliferecoverytrust.org.uk\/\">Waterlife Recovery Trust<\/a><\/strong>). Maen nhw a&#8217;u partneriaid wedi dangos bod dileu\u2019r Minc o ardal maint Dwyrain Anglia mewn ffordd ddynol yn bosibl gan ddefnyddio trapio yn unig. Bydd dileu\u2019r Minc o Gymru yn gofyn am brosiect ledled y wlad ond ein nod ni yw ei sefydlu a&#8217;i weithredu, ac rydym newydd gyflogi Swyddog Rheoli Mincod at y diben hwnnw. Bydd yn cael ei gyfarwyddo gan WRT, oherwydd bydd profiad yr Ymddiriedolaeth yn hanfodol, a bydd yn cael ei gynghori gan bartneriaid SWAMP i dargedu a chynnal rheolaeth effeithiol ar y Minc ar draws De Ddwyrain Cymru. Y gobaith yw y bydd llwyddiant y prosiect hwn yn arwain at ymdrech gydlynol i gael gwared ar y rhywogaeth o Gymru, er budd y nifer o rywogaethau sy\u2019n cael eu heffeithio gan bresenoldeb yr ysglyfaethwr yma.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yn un o&#8217;r prif fygythiadau i fioamrywiaeth ledled y byd. Mae symiau enfawr o arian yn cael eu gwario&#8217;n flynyddol yn y DU ar gael&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":777,"featured_media":11563,"comment_status":"open","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[406,266,29,267],"tags":[503,91,270,100],"class_list":["post-11608","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-arolwg-bywyd-gwyllt","category-habitat-restoration-cy","category-uncategorized-cy","category-wildlife-protection-cy","tag-inns","tag-mink-cy","tag-nature-conservation-cy","tag-water-vole-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11608","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/777"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11608"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11608\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11563"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11608"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11608"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.wild.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11608"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}